Hanes

workhouse inmatesAdeiladwyd Wyrcws Undeb Llanfyllin ym 1838-39, i gynllun Thomas Penson, sef y ffigwr canolog mewn teulu nodedig o benseiri. Mae’r adeilad wedi’i leoli mewn caeau agored, hanner milltir i’r de-ddwyrain o Lanfyllin, ac o’r dref mae i’w weld fel adeilad mawreddog o garreg nadd. Y tu ôl i’r ffrynt hwn mae cymhlethfa fawr, llym yr olwg, ar ffurf croes, gydag octagon yn y canol a chiwpola ar ei ben.

Roedd Undeb Llanfyllin yn cwmpasu Gogledd Sir Drefaldwyn o afon Tanat i afon Banwy, ac adeiladwyd y Wyrcws i letya 250 o dlodion. Mae ei leoliad a’i gynllun yn nodweddiadol o’r math penodol o adeiladu a sefydlwyd gan Ddeddf Diwygio Cyfraith y Tlodion 1834. Nod y system newydd oedd atal y tlawd rhag ceisio cymorth; cyflawnwyd hyn trwy gyfundrefn o ddisgyblaeth a gwahaniad a chyn lleied o gynhaliaeth a chysur â phosibl.

Roedd bywyd yn y Wyrcws yn galed, ac araf iawn y newidiodd yr amodau. Parhaodd system cyfraith y tlodion hyd 1930: daeth y Wyrcws yn Sefydliad Cymorth Cyhoeddus, ac yn ddiweddarach daeth yn gartref i’r henoed, sef Y Dolydd. Caeodd Y Dolydd ym 1984, ac ar ôl cyfnod byr fel canolfan gweithgareddau awyr agored, fe’i gadawyd yn wag ac yn segur.

Yn 2001, camodd merch fusnes leol, Hilary Collins, i mewn a phrynu’r Dolydd. Ei chynllun oedd adfer yr adeilad a’i ddefnyddio i redeg busnes llwyddiannus, ynghyd â chanolfan dreftadaeth a pharcdir gerllaw’r afon. Byddai hyn yn dod ag ymwelwyr a gwaith i’r ardal. Daeth yn amlwg y byddai angen cymorth grant i ariannu adnewyddiad llwyr, ac roedd hyn yn golygu sefydlu ymddiriedolaeth elusennol. Cafwyd cyngor oddi wrth y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, a sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeilad y Dolydd Llanfyllin.

Ym mis Mehefin 2004, fe gymeradwyodd y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol fenthyciad i’r Ymddiriedolaeth i brynu’r Wyrcws oddi wrth Hilary Collins. Yn 2007, pleidleisiodd ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeilad Llanfyllin yn ffurfiol dros uno â Gŵyl y Wyrcws i greu un corff. Yn dilyn llawer o waith caled, cadarnhaodd yr Ecology Building Society ei gynnig o forgais masnachol i brynu’r adeilad ar 10 Rhagfyr 2007.